|
Search this group's discussions
|
Llyfr 'Sgymraeg' trwy'r Lolfa
|
Dw i newydd darllen datganiad Y Lolfa am llyfr newydd Sgymraeg.
Ti'n gallu gweld y clawr yma.
www.ylolfa.com/lluniau/cloriau/9781847713995.jpg
Darllen mwy am y llyfr (a phrynu).
www.ylolfa.com/dangos.php?lang=cy&ISBN=%209781847713995
Beth mae pobol yn meddwl? Dw i ddim wedi gweld tu mewn eto.
**** dechrau datganiad Y Lolfa ****
Y gorau o’r gwaethaf o arwyddion Cymraeg – dyna a geir mewn llyfr hiwmor newydd sydd yn cael ei gyhoeddi gan wasg y Lolfa. Mae Sgymraeg yn casglu ynghyd arwyddion Cymraeg sâl o Gymru benbaladr gyda sylwadau ffraeth gan Euron Griffith, awdur y nofel ddigri, Dyn Pob Un.
Ond os bydd yr esiamplau yn gwneud i chi chwerthin, mae’n bosib y bydd rhai yn peri i chi grio hefyd wrth sylweddoli pa mor ddrwg yw safon y gwaith cyfieithu. Dechreuwyd casglu’r Sgymraegs gan Golwg ar ôl i ddarllenwyr ddechrau eu hanfon at golofn ddychanol Jac Codi Baw ar dudalennau’r cylchgrawn. Ers hynny maent wedi dod yn rhan boblogaidd o’r wythnosolyn a bellach maent i’w gweld ar y we wrth i bobl fynd ati i rannu esiamplau gwael maen nhw’n eu gweld ledled Cymru ar flickr a Twitter.
Mae rhai wedi cael sylw pellach ar raglenni newyddion a hyd yn oed y tu hwnt i Gymru, ac yn achos un Sgymraeg, daeth ceisiadau am wybodaeth o bapurau Llundain, y News at Ten a’r rhaglen ddychanol Have I Got News For You. Mae’n bosib mai’r Sgymraeg enwocaf hyd yn hyn yw’r un a roddwyd ar arwydd ffordd, er nad oedd y cyfieithydd ar gael! ‘No entry for heavy goods vehicles. Residential site only’ yn Saesneg. Ac yn Gymraeg? ‘Nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd. Anfonwch unrhyw waith i’w gyfieithu’.
Fel rhan o golofn ddychanol Jac Codi Baw y gwelwyd yr enghreifftiau ‘Rhybudd – Gweithwyr yn ffrwydro’, ‘Cyclists Dismount – Llid y bledren dymchwelyd’ neu’r arwydd oedd yn tynnu sylw at benwythnos arbennig i ddathlu adar drycin – ‘Shear Madness’. Cafodd ei droi’n ddigwyddiad gwahanol iawn yn Gymraeg, sef ‘Cneifio Gwallgof’.
Am y tro cyntaf bydd y llyfr bach hwn yn casglu’r goreuon ynghyd er mwyn codi gwên mewn rhodd ar gyfer yr hosan Nadolig.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Branwen Huws, Y Lolfa, ar 01970 832 304 neu branwen@ylolfa.com
**** diwedd datganiad Y Lolfa ****
Originally posted at 10:00AM, 1 December 2011 PDT
(permalink)
carlmorris edited this topic 6 months ago.
|
|
Ces i gopi o'r llyfr wythnos diwetha. Fel wedes i wrth Golwg360, mae'n llyfr bach reit hwylus, bydd yn boblogaidd amser Dolig. Braidd yn siomedig bod dim sôn am y grwp yma, na chydnabyddiaeth ar wahan i'r rhestr enwau yn y cefn, ond dw i'n methu dod ar hyd i'r egni colli cwsg drosto. 'Swn i wedi meddwl, allwn i fod wedi mynnu eu bod nhw'n cynnwys URL y grwp, o leia, ond oedd pethau eraill ar fy meddwl ar y pryd.
Ces i gopi am ddim yn y post y diwrnod wedyn, felly os eisiau copi ar rhywun, rho wybod. Y neges breifat gyntaf i'r felin.
Posted 6 months ago.
(permalink)
|
|
Newydd sgwennu meddyliau.
ytwll.com/2011/12/scymraeg-sgymraeg/
Posted 5 months ago.
(permalink)
|
Would you like to comment?
Sign up for a free account, or sign in (if you're already a member).
|
|