About LLUNiaeth - Ffotograffiaeth Gristnogol
Cronfa o ffotograffau Cristnogol yw LLUNiaeth. Gall y ffotograffau fod yn gofnod o weithgareddau Cristnogol neu'n ysgogiad i fyfyrdod a gweddi.
Os hoffai unrhyw un ddefnyddio un o'r ffotograffau mewn unrhyw fodd, dylid cysylltu gyda'r ffotograffydd yn gyntaf.
Hefyd, cynhelir cystadleuaeth fisol i gyfuno adnod o'r Beibl â ffotograff trawiadol.
Bydd aelodau'r grwp yn cael thema bob mis. Byddant yn cyfuno adnod ar y thema honno â ffotograff gwreiddiol ac yn arddangos eu cynigion misol yn y fan hon. Bydd cyfle i bleidleisio dros eu hoff lun ar ddiwedd pob mis.
Mae gan y cystadleuwyr ryddid i ddewis a ydynt am roi testun yr adnod yn y llun ei hun, neu ei gadw fel teitl yn unig.
Bydd y ffotograff buddugol yn cael ei arddangos ar wefan Cristnogblog (www.cristnogblog.blogspot.com) a'r ffotograffydd yn dewis thema ar gyfer y mis canlynol (e.e. llawenydd, goleuni, tragwyddoldeb, ayyb).
Pob hwyl gyda'r tynnu lluniau!
|
Additional Information
This is a public group.
- Accepted media types:
- Accepted content types:
- Photos / Videos
- Screenshots / Screencasts
- Illustration/Art / Animation/CGI
- Accepted safety levels:
|